Datganiad hygyrchedd ar gyfer dewis Gofal Plant
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r is barth dewisgofalplant yn gwybodaethgofalplant.cymru.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Data Cymru. Dymunwn i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA and VoiceOver).
Hefyd rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet (Saesneg yn unig) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch mae’r wefan hon
Gwyddom nad yw rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:
- ni allwch addasu uchder llinell na gofodau testun
- mae'r wefan yn defnyddio llithrydd i arddangos ffotograffau. Mae'r ID yn cael ei ddefnyddio i gychwyn y llithrydd yn Javascript ac nid yw'n cael ei ddefnyddio fel dull disgrifiadol i egluro beth ydyw.
Adborth a gwybodaeth gysylltu
Os oes arnoch chi angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn pum diwrnod gwaith.
Adrodd problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os credwch nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, e-bostiwch: ymholiadau@data.cymru or call 029 2090 9500.
Gweithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018
(‘y rheoliadau hygyrchedd'). Os ydych yn anfodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Data Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (Saesneg yn unig) safon AA. Mae’r diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau yn cael eu rhestru isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Methiant i gydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid oes gan y PDF sy'n cyd-fynd â'r wefan gymarebau cyferbyniad lliw digonol sy'n methu maen prawf llwyddiant 1.4.3: Cyferbyniad (Isafswm).
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn yn fewnol ar 08/08/23. Cafodd ei adolygu diwethaf ar 08/08/23.
Cafodd y wefan ei phrofi diwethaf yn Gorffennaf 2023. Cafodd y sganiau awtomeiddiedig ar bob sgrin y wefan a phrofion rhyngweithiol unigol dan arweiniad, am bob bysellfwrdd,delwedd a strwythur yn erbyn WCAG 2.1 AA eu cynnal gan Data Cymru gan ddefnyddioAxe-core 4.7.2 (Saesneg yn unig).