Skip to main content

Dewis y gofal plant cywir

Beth bynnag yw eich rheswm dros ddewis gofal plant, mae sawl opsiwn ar gael i ateb eich anghenion. Mae dewis y gofal plant cywir yn bwysig, ond gall fod yn anodd. Mae cymaint o bethau i’w hystyried!

Bydd y wefan hon yn egluro’r manteision a’r gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael, ble i ddod o hyd i ofal plant, a pha gymorth ariannol sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau gofal plant.

Pam dewis gofal plant a beth yw’r manteision?

I’ch plentyn: Gall gofal plant o ansawdd da gael dylanwad cadarnhaol ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a deallusol eich plentyn. Bydd yn caniatáu i’ch plentyn elwa o brofiadau chwarae, gofal, bywyd a dysgu gyda phlant eraill.

I chi: Mae gofal plant yn caniatáu i chi weithio neu hyfforddi. Mae’n gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cyfrannu at gynyddu incwm y teulu. Gallwch ymgymryd â chyflogaeth neu weithio oriau hirach, gan greu manteision ehangach i fywyd teuluol. Gallwch hefyd ddefnyddio gofal plant at ddibenion seibiant (respite).

I chi a’ch plentyn: Mae’n bwysig, wrth ddewis eich gofal plant, ein bod yn dweud wrthych beth yw’r
gwahaniaeth rhwng lleoliadau cofrestredig (registered) ag anghofrestredig (unregistered). I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
Pam ddylwn ddewis lleoliad gofal plant cofrestredig?

Oeddech chi’n gwybod bod gan eich plentyn hawl i chwarae?

Yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (Saesneg yn unig) mae gan eich plentyn yr hawl i chwarae. Mae chwarae yn hanfodol i iechyd, lles, gwydnwch, hyder, sgiliau cymdeithasol, sgiliau gwybyddol, sgiliau motor a datblygiad eich plentyn.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - pwy ydyn nhw, a beth maen nhw’n ei wneud?

Mae AGC yn rheoleiddiwr annibynnol (independent regulators) ar gyfer gofal plant (a gofal cymdeithasol) yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yn cael eu rheoleiddio gan AGC. Mae AGC yn cofrestru ac yn arolygu lleoliadau ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau, gan sicrhau y byddwch chi a’ch plentyn yn cael y profiadau a’r cyfleoedd gorau.

Os yw lleoliad gofal i blant hyd at 12 oed yn rhedeg am fwy na 2 awr y dydd, neu am fwy na 5 diwrnod y flwyddyn, yna, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid iddo gael ei gofrestru ag AGC. Mae AGC yn sicrhau bod gwasanaethau gofal yn cwrdd â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’u bod yn cefnogi hawliau plant.

Pam y dylwn ddewis lleoliad gofal plant cofrestredig?

Mae lleoliadau gofal plant sydd wedi eu cofrestru ag AGC:

  • yn rhoi sicrwydd bod eich plentyn yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel a phriodol,
  • yn fwy fforddiadwy gan eu bod yn cynnig cynlluniau amrywiol i helpu gyda chostau gofal plant,
  • ag ymarferwyr (gair arall am staff neu ofalwr plant) sydd wedi eu gwirio, cymhwyso a’u hyfforddi i gefnogi ffyniant eich plentyn,
  • â chymarebau llym yn nhermau’r nifer o oedolion i blant (h.y. niferoedd digonol o ymarferwyr i ofalu am grwpiau o blant),
  • â pholisïau, gweithdrefnau ac yswiriant cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod ymarferwyr a phlant yn derbyn gofal ac yn ddiogel,
  • yn cynnig hyblygrwydd i gwrdd â’ch anghenion, a rhai eich plentyn
  • yn ofodau chwarae cynhwysfawr a diogel
  • yn cael eu harolygu gan arolygwyr AGC (mae Adroddiadau Arolygu a rhagor o wybodaeth am ddewis gofal i’ch plentyn ar gael ar-lein: Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gallwch hefyd ofyn i’r darparwr gofal plant o’ch dewis am gopi o’i Adroddiad Arolygu.

Arolygiaeth Gofal Cymru

Beth os yw’r lleoliad gofal plant dwi wedi dewis heb ei gofrestru?

Mae lleoliadau gofal plant a chwarae anghofrestredig hefyd yn medru cynnig cyfleoedd gofal plant o safon. Efallai bod ganddyn nhw resymau dilys dros beidio cofrestru, er enghraifft, efallai eu bod yn redeg am lai na 2 awr y dydd, neu am lai na 5 diwrnod y flwyddyn neu oherwydd cyfyngiadau ffisegol, er enghraifft, os ydyn nhw wedi eu lleoli mewn adeilad cymunedol hŷn(fel neuadd eglwys)nad yw’n cwrdd â’r rheoleiddiadau angenrheidiol. Mae gennych chi yr hawl i ddeall pam nad yw lleoliad wedi ei gofrestru ag AGC. Os ydych yn dewis lleoliad anghofrestredig ar gyfer eich plentyn, bydd hynny yn cyfyngu ar y cymorth gallwch dderbyn i dalu costau gofal plant, gan fod rhaid i leoliadau gofal plant a chwarae fod wedi eu cofrestru gydag AGC i gael cymorth ariannol.

Gadewch i ni symud ymlaen a thrafod y gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael i chi!

Mathau o ofal plant

Isod rydym yn rhestru’r gwahanol fathau o ofal plant. Gallwch ganfod mwy am y math o leoliad drwy glicio ar y ddolen i’r wefan.

Efallai y byddwch hefyd am gysylltu’n uniongyrchol â’r lleoliad i ganfod a ydyn nhw’n darparu gwasanaeth Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.

Gofalwyr plant

Mae gofalwr plant yn cynnig gofal cartref-o-gartref, ac ystod eang o brofiadau chwarae a dysgu. Maen nhw’n gofalu am niferoedd bach o blant yng nghartref y gofalwr plant, ac yn gweithio’n agos gyda chi i gwrdd ag anghenion eich plentyn. Er maen nhw wedi eu cofrestru i ofalu am blant dan 12 oed, gall gofalwyr plant hefyd gofalu am blant hŷn, felly gallan nhw ddarparu gofal cyson i blant o enedigaeth.

Gall gofalwr plant fod yn hyblyg a chynnig gofal rhan a llawn-amser, cyn ac ar ôl ysgol, gofal cofleidiol (wraparound care), (lle gallant ollwng neu gasglu'ch plentyn o'r ysgol), gofal yn ystod gwyliau’r ysgol, a gall hynny gynnwys gofal gyda’r hwyr, ar benwythnosau neu dros nos.

Dewis gofal plant gwych | PACEY

Meithrinfeydd Dydd

Mae Meithrinfeydd Dydd yn darparu gwasanaethau gofal dydd llawn am hyd at 10 awr y diwrnod, ac maen nhw’n gofalu am blant o enedigaeth. Mae llawer o feithrinfeydd yn cael eu cynnal mewn adeiladau a defnyddiwyd dim ond at y diben o ofalu am fabanod a phlant, ac fel arfer byddan nhw’n darparu prydau a byrbrydau ffres. Mae’r holl gyfleusterau a gweithgareddau yn ysgogi plant ac yn eu helpu i ddatblygu.

Mae Meithrinfeydd Dydd yn creu awyrgylch cyfeillgar i fabanod a phlant ifanc, lle caent dderbyn gofal a digonedd o gyfleoedd i chwarae a dysgu. Mae yna wahanol ystafelloedd ar gyfer plant o wahanol oedrannau neu gamau datblygiadol, sy’n caniatáu i blant dyfu a gwneud cynnydd mewn awyrgylch cyfarwydd.

Mae rhai Meithrinfeydd Dydd yn darparu gofal plant tu allan i oriau ysgol, trwy glybiau Brecwast, clybiau Ar Ôl Ysgol a chlybiau Gwyliau.

Rhieni plant oed meithrin - NDNA

Gofal All-ysgol

Mae Gofal Plant All-ysgol yn cynnig gofal tu allan i oriau ysgol arferol y plentyn, ac mae’n darparu gofal cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol i blant 3 - 11+ oed.

Mae Gofal Plant All-ysgol yn rhoi cyfleoedd sy’n gyfoethog o ran chwarae ac sy’n cael eu harwain gan y plentyn, wedi’u hwyluso gan Weithwyr Chwarae cymwysedig. Mae Gweithwyr Chwarae yn rhoi cyfleoedd i blant chwarae’n rhydd mewn man diogel, gan roi hwb i’w hunan-barch a’u lles a’u helpu i ddatblygu ystod o sgiliau bywyd.

Amdanon Ni | Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Cylchoedd Meithrin

Mae Cylchoedd Meithrin yn darparu gofal plant drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i blant sydd fel arfer rhwng 2 flwydd oed ac oedran ysgol. Mae’r Cylchoedd Meithrin yn cynnig gwasanaethau sy’n amrywio o ofal dydd llawn, gofal sesiynol (2 - 4 awr o hyd) neu ofal cofleidiol i gyd-fynd ag amseroedd ysgolion lleol.

Mae’r holl ofal plant mewn Cylch Meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r plant yn amsugno’r iaith yn naturiol. Nid yw’r mwyafrif o rieni sy’n danfon eu plant i Gylch Meithrin yn siarad Cymraeg eu hunain, a gallan nhw fanteisio ar y cyfle i ddysgu’r iaith hefyd, os ydyn nhw’n dymuno gwneud felly.

I Rieni – Meithrin (Saesneg yn unig)

Grŵp Chwarae neu Cyn-ysgol

Mae Grŵp Chwarae, a elwir hefyd yn Cyn-ysgol, yn fath o ofal plant i blant 2 oed a hŷn, yn hytrach na bod gofal yn cael ei ddarparu ar gyfer babanod neu blant bach.

Yn arferol, mae grwpiau chwarae yn cael eu rhedeg allan o ganolfan cymunedol, ysgol neu adeilad eglwys, a hynny fel arfer yn ystod tymor ysgol yn unig, er mae rhai yn weithredol drwy’r flwyddyn. Gall amseroedd agor amrywio o sesiynau dyddiol byr o 2-4 awr, neu hanner diwrnod i sesiwn drwy’r dydd*. Mae nifer yn cynnig gofal cofleidiol (lle gallan nhw ollwng neu gasglu eich plentyn o’r ysgol) i blant sy’n mynychu’r ysgol gynradd lleol yn rhan amser.

* Pan mae grwpiau chwarae ar agor drwy’r dydd, nid ydynt fel arfer yn cynnig yr ystod lawn o wasanaethau fel meithrinfa ddydd, na’n gofalu am yr un ystod oedran. Er enghraifft, nid ydynt yn darparu gofal plant i fabanod o’u genedigaeth ymlaen nac yn darparu 3 phryd o fwyd y dydd.

Tudalennau Rhieni | Blynyddoedd Cynnar Cymru

Opsiynau eraill

Nanis

Mae nani yn gweithio yn eich cartref ac yn darparu gofal plant i’ch teulu. Gallan nhw ddarparu gofal plant hyblyg sy’n ateb amgylchiadau ac anghenion eich teulu. Gall nani fyw gyda’ch teulu, neu ddod i’ch cartref yn ddyddiol. Gall nani ofalu am blant ddau deulu yng nghartref un o’r teuluoedd.

Yn wahanol i ofalwyr plant, nid yw nanis yn cofrestru gyda, na’n cael eu harolygu gan AGC, er bod nifer ohonyn nhw’n dewis ymaelodi â’r Cynllun Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 | Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n cynnwys nifer o wiriadau, ynghyd â Cwestiynau Cyffredin i rhieni / gofalwyr. Cynllun gwirfoddol yw hwn, ond mae yna fanteision i ddefnyddio nani gofrestredig, er enghraifft, bydd nanis sydd wedi eu cymeradwyo wedi dilyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf priodol a gall rhieni elwa o gymorth y Llywodraeth gyda chostau gofal plant.

Nanis | PACEY (Saesneg yn unig)

Crèches

Mae crèches yn darparu gwasanaeth i rieni trwy gynnig gofal plant i blant mor ifanc â chwe wythnos oed a hŷn.

Mae crèche yn wahanol i ofal dydd gan y gallan nhw gynnig atebion gofal plant dros dro i rieni fynychu digwyddiadau penodol fel hyfforddiant, dysgu neu hyd yn oed dosbarthiadau ymarfer corff e.e. mewn crèche, gofelir am blant tra bod eu rhieni neu ofalwyr yn gwneud rhywbeth arall ar yr un safle. Os yw crèche yn gweithredu am fwy na 5 diwrnod y flwyddyn ac am 2 awr neu fwy y dydd, yna rhaid iddynt gofrestru gydag AGC. Gall crèche fod dan reolaeth awdurdod lleol neu’r gymuned leol, neu dan reolaeth breifat. Maen nhw’n cynnig awyrgylch diogel i gefnogi chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Chwarae Mynediad Agored

Mae lleoliadau Chwarae Mynediad Agored yn cael eu staffio gan ymarferwyr hyfforddedig a gallan nhw gael eu gweithredu gan awdurdodau lleol neu grwpiau cymunedol. Gallan nhw fod yn barhaol neu’n dymhorol, a chael eu lleoli mewn amryw o leoliadau fel meysydd chwarae antur, cynlluniau chwarae neu barciau.

Rôl y lleoliad yw cefnogi’r plant i ddewis sut a phryd mae nhw’n chwarae, ac mae gweithwyr chwarae yn goruchwylio’r plant pan fyddan nhw ar y safle. Mae angen i rieni / gofalwyr sicrhau bod plant yn gallu cyrraedd y lleoliad a mynd oddi yno’n ddiogel. Yn gyffredinol, caniateir i blant sydd â’r gallu i gyrraedd y lleoliad a mynd oddi yno ar eu pen eu hunain wneud hynny.

Tra mae’r term ‘Mynediad Agored’ yn berthnasol i leoliadau cofrestredig i blant dan 12, maen nhw fel arfer yn darparu ar gyfer ystod oedran eang, gan gynnwys plant dros 12.

Chwarae Cymru

Ydych chi wedi meddwl am gyflwyno’ch plentyn i gylchoedd cymdeithasol cyn defnyddio gofal plant?

Mae llawer o rieni’n dewis mynychu sesiynau rhieni a phlant bach cyn dewis gofal plant fel:

Cylch Ti a Fi

Mae’r Cylch Ti a Fi yn croesawu babanod, plant ifanc a’u rheini / gofalwyr i aros, chwarae a chymdeithasu. Mae’r Cylch Ti a Fi yn cynnig gweithgareddau hwyl sy’n gyfle i deuluoedd nad yw’n siarad Cymraeg ddefnyddio’r iaith gyda’u plant am y tro cyntaf.

I Rieni - Meithrin

Grwpiau Rhieni a Phlant Bach

Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn sesiynau anffurfiol lle gall rhieni, gofalwyr, gofalwyr plant a’u plant fynd i gael hwyl a chwrdd â phobl newydd. Mae rhieni/gofalwyr yn aros gyda, ac yn gyfrifol am eu plant drwy gydol y sesiwn.

Tudalen Rieni | Blynyddoedd Cynnar Cymru

Nawr bod gennych well dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael i chi, bydd yr adran nesaf yn ateb rhai o’r cwestiynau eraill hynny sydd gennych!

Dewis gwasanaeth gofal plant

Gall trosglwyddo cyfrifoldeb gofal eich plentyn i rywun arall fod yn dasg emosiynol ac anodd. Dyma ein top tips ar ddewis gwasanaeth gofal plant:

  • Gadewch digon o amser i ymchwilio i’ch opsiynau, weithiau gall fod rhestrau aros am leoedd.
  • Ymchwiliwch i ganfod eich opsiynau drwy edrych ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch gyda’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
  • Siaradwch â theuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr o fewn eich cymuned gan fydd gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ganddyn nhw i’w rhannu gyda chi.
  • Meddyliwch am oedran eich plentyn ac os yw’r gwasanaeth yn darparu ar gyfer eich plentyn.
  • Cymharwch a cheisiwch ymweld â 2 neu 3 lleoliad.
  • Peidiwch â diystyru cyfuno gofal plant h.y. defnyddio dau leoliad gwahanol.

Unwaith y byddwch wedi gwneud eich gwaith ymchwil a bod eich penderfyniad wedi’i wneud, cysylltwch â’ch lleoliad gofal plant dewisol i gael rhagor o wybodaeth. Codwch y ffôn a gofynnwch am gael ymweld â’r lleoliad a chwrdd â’r ymarferwyr. Byddan nhw’n hapus i glywed gennych ac i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych chi. Bydd llawer o leoliadau gofal plant yn cynnig sesiynau ymgartrefu, bydd yn eich galluogi i weld sut mae eich plentyn yn dod ymlaen yn eu hamgylchedd newydd a chyffrous.

Mae fy ymweliad wedi’i drefnu, beth ddylwn i chwilio amdano yn y lleoliad gofal plant?

1. Amgylcheddau Effeithiol

  • A yw’r safle’n lân?
  • A yw’n groesawgar ac yn gyfeillgar?
  • A oes awyrgylch cadarnhaol?
  • A yw’n ddiogel ac yn saff?

2. Oedolion sy'n Galluogi Dysgu

  • A gawsoch chi a’ch plentyn groeso gan yr ymarferwyr?
  • A yw’r ymarferwyr yn angerddol ac yn frwdfrydig?
  • A welsoch chi gysylltiadau cryf rhwng y plant a’r ymarferwyr?

3. Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb

  • A oes amrywiaeth o brofiadau a dewisiadau chwarae i’r plant i gyd?
  • A yw’r chwarae’n greadigol?
  • A yw plant yn gallu mynd allan i chwarae’n ddiogel fel rhan o’u diwrnod?

Pa gwestiynau y dylwn ofyn? Cofiwch nad oes y fath beth â chwestiwn gwirion!

  • Gofynnwch iddyn nhw gyflwyno’r lleoliad a pha wasanaethau maen nhw’n ei gynnig.
  • Beth yw diwrnod neu sesiwn arferol?
  • Beth yw’r brif iaith a ddefnyddir yn y lleoliad?
  • A yw’r lleoliad wedi ei gofrestru ag AGC? Gofynnwch i gael gweld copi o’r arolygiad AGC mwyaf cyfredol a / neu’r adroddiad Ansawdd y Gofal.
  • Oes lle ar gael i’ch plentyn, neu oes yna restr aros?
  • A ydyn nhw’n cynnig oriau gofal plant sy’n cwrdd ag anghenion chi a’ch plant?
  • A ydyn nhw'n cynnig sesiynau ymgartrefu a sut fyddant yn helpu fy mhlentyn i ymgartrefu?
  • Beth yw’r gost? Ydy hyn yn cynnwys prydau iach a byrbrydau? Oes unrhyw beth ychwanegol, neu ostyngiadau ar gael?
  • A fyddwch yn medru cael cymorth gyda’ch costau gofal plant? Gwelwch yr adran cymorth gyda chostau cymorth plant.
  • Sut fydden nhw’n fy niweddaru ynghylch gofal fy mhlentyn?
  • Mae gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol, pa gymorth sydd ar gael iddo?
  • Sut maen nhw’n annog plant i ddysgu neu ddarganfod gwahanol ddiwylliannau?
  • A ydyn nhw yn darparu addysg blynyddoedd cynnar?
  • Yn meddwl am addysg eich plentyn, a ydyn nhw’n darparu gwasanaeth cofleidiol i gyd-fynd efo amseroedd ysgol? Ydy hynny’n cynnwys cludiant?
  • Sut maen nhw'n gweithio gydag ysgolion i helpu fy mhlentyn gyda'u camau nesaf?

Yn olaf, ac i sicrhau bod pob plentyn 0 i 5 oed yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi lles a datblygiad plant wrth wraidd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru. Mae adnoddau a chanllaw wedi'u datblygu ar gyfer ymarferwyr, a fydd yn sicrhau eu bod yn deall yr hyn sy'n bwysig i ddatblygiad eich plentyn a sut gallent gefnogi'ch plentyn orau yn ystod eu camau datblygu gwahanol. Am fwy o wybodaeth, ewch at Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru (CDGPC).

Cymorth gyda chostau gofal plant

Gall gofal plant ymddangos yn gostus, ond os defnyddiwch ofal plant sydd wedi ei gofrestru ag AGC, efallai bydd gennych fynediad at gymorth ariannol i helpu talu am gostau gofal plant, er enghraifft nanis a gymeradwywyd o dan gynllun AGC Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref.

Credyd Cynhwysol

Gall rhieni dderbyn cymorth i dalu am gostau byw, gan gynnwys gofal plant. Gallwch ganfod os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol (Saesneg yn unig).

Cynllun Gofal Plant Di-dreth

Mae’r cynllun hwn yn helpu gyda chostau gofal plant. Os ydych yn derbyn Gofal Plant Di-dreth, mi fyddwch yn creu cyfrif ar-lein ar gyfer eich plentyn.

Am bob £8 y byddwch yn ei dalu i mewn i’r cyfrif hwn, bydd y Llywodraeth DU yn talu £2.00 at gostau eich darparwr. Gallwch ganfod os ydych yn gymwys am Gofal Plant Di-dreth (Saesneg yn unig).

Cynnig Gofal Plant Cymru i blant 3 a 4 oed

Mae’r Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg a ariannir i rieni sy’n gweithio neu rieni sy’n hyfforddi / mewn addysg ac sydd â phlant 3 neu 4 oed. Gallwch ganfod mwy yma.

Dechrau’n Deg

Dechrau’n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar sydd wedi’i hanelu at deuluoedd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae elfennau craidd y rhaglen yn dylanwadu’n gadarnhaol ar blant a’u teuluoedd. gan gynnwys y canlynol:
• gofal rhan-amser am ddim o ansawdd a ariennir i blant 2-3 oed;
• gwell gwasanaeth ymweliadau iechyd;
• mynediad at gymorth magu plant; a

Mae gofal plant Dechrau’n Deg yn cael ei ehangu’n raddol i gynnwys mwy o blant 2 oed ledled Cymru. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) i holi am argaeledd yn eich ardal. Gallwch ganfod mwy yma.

Cefnogaeth i fyfyrwyr

Gall myfyrwyr israddedig dderbyn grant gofal plant. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Lleoedd â chymorth (assisted places) a chynlluniau dwylo ychwanegol

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig cefnogaeth i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn y lleoliad a gallan nhw gynnig cymorth amrywiol gan gynnwys cymorth gyda ffioedd gofal plant. Bydd angen i chi gysylltu â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth sydd wedi ei gynnwys ar yr wefan hon yn caniatáu i chi ddewis y math cywir o ofal plant i chi a’ch plentyn, ac y byddwch yn hyderus, yn gyfforddus ac yn hapus gyda’ch penderfyniad!

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD)

  • Gofal plant, a chymorth gyda chostau gofal plant
  • Gweithgareddau i blant a phobl ifanc
  • Sefydliadau sy’n cefnogi teuluoedd

Y GGiD yw’r lle i gychwyn os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gefnogaeth i’ch teulu. Gall y GGiD ddarparu gwybodaeth sydd wedi’i theilwra at eich anghenion unigol. Cysylltwch â nhw am ragor o wybodaeth.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD)

Sut i gysylltu efo’ch GGiD?

Mae yna GGiD ymhob awdurdod lleol, a gallwch gysylltu â nhw ar 0300 123 777 neu drwy fynd i Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Mae’r GGiD yn gweithio’n agos â darparwyr gofal plant yn eich ardal i gyflwyno gwybodaeth gyfredol a chywir am yr hyn maen nhw’n ei gynnig.

Dod o hyd i’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol

Cwlwm

Mae Cwlwm yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod teuluoedd ar draws Cymru gyda mynediad at ofal plant fforddiadwy o safon, gan ddarparu gofal plant a chyfleodd chwarae hyblyg sy’n cwrdd ag anghenion rhieni a theuluoedd.

Mae Cwlwm yn uno pum sefydliad blaenllaw gofal plant Cymru i ddarparu gwasanaeth integredig dwyieithog fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a theuluoedd ledled Cymru. Mae Cwlwm yn gasgliad o bum mudiad gyda’r Mudiad Meithrin yn brif sefydliad.

Mudiadau ‘Cwlwm’ yw Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Mudiad Meithrin, National Day Nurseries Association (NDNA Cymru) a PACEY Cymru.

Mae partneriaid Cwlwm yn cefnogi lleoliadau gofal plant trwy gynnig arweiniad ac aelodaeth, a thrwy annog lleoliadau cynaliadwy o safon.