Gwybodaeth am wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw’r man cyntaf am gyngor a gwybodaeth ar wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr.
Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor ynglŷn ag amrywiaeth o faterion teuluol, gan gynnwys:
- Gofal plant a help gyda chostau gofal plant
- Gofal iechyd
- Addysg a Hyfforddiant
- Gwasanaethau hamdden
- Arian
Maen nhw'n gallu eich helpu chi i gysylltu ag arbenigwyr fydd yn rhoi help a chyngor i chi sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion unigol chi.
Maen nhw hefyd yn gallu eich cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol ac at raglenni Llywodraeth Cymru.
Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a gallwch gysylltu â nhw drwy'r post, ar e-bost neu drwy godi'r ffôn. Gallwch gael gafael ar fanylion cyswllt Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich awdurdod lleol drwy dewis eich ardal ar ein hafan.