Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant
P’un a ydych yn warchodwr plant, yn rheoli meithrinfa ddydd neu’n darparu gwasanaeth i blant a theuluoedd, gallwch chi hyrwyddo / diweddaru’ch gwasanaeth ar-lein.
Pam ydy’n bwysig fy mod i’n diweddaru fy ngwybodaeth?
Bydd darparu gwybodaeth gywir, gyfredol yn golygu y bydd gan rieni a gofalwyr fynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf, er enghraifft oriau agor, costau a lleoedd gwag, wrth chwilio am ofal plant yn eu hardal.
Mae angen i mi ddiweddaru fy manylion, sut mae gwneud hynny?
I ddiweddaru’ch gwybodaeth bydd angen i chi fynd i Dewis Cymru. Dewis Cymru yw’r wefan llesiant ar gyfer Cymru. Y 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy’n berchen ar Dewis ac sy’n ei ariannu. Cafodd Dewis Cymru ei ddatblygu mewn ymateb i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i drefnu bod gyhoeddi gwybodaeth am yr amrediad o wasanaethau lleol sydd ar gael i’r cyhoedd. Y syniad yw y bydd pobl yn gwneud penderfyniadau gwell am eu llesiant pan fydd gwybodaeth ar gael iddyn nhw am ystod o wasanaethau lleol a chenedlaethol.
Bydd angen i chi gofrestru (os nad ydych chi wedi gwneud yn barod) gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost. Ar ôl cofrestru a mewngofnodi, ewch i, ‘Rheoli adnoddau’, ac yna ‘Adnoddau rydych yn gyfrifol amdanynt’ neu ‘Adnoddau rydych yn berchen arnynt’. Yma bydd eich adnodd(au) ar gael i chi eu hadolygu / golygu yn ôl yr angen. Os nad ydy’ch adnodd(au) yn weladwy yn barod yn adran ‘Rheoli adnoddau’, yna cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol cyn gwneud dim byd arall.
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi ddiweddaru fy ngwybodaeth?
Ar ôl i chi gwblhau diweddaru’ch gwybodaeth, ticiwch y blwch yn y tab ‘Cyhoeddi’ ac yna cliciwch ‘Cadw’ch newidiadau’. Bydd eich gwybodaeth y cael ei gwirio gan eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol a fydd yn cymeradwyo’ch newidiadau.
Oes angen i mi ddiweddaru fy manylion ar y ddwy wefan?
Nac oes, mae ond angen i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth unwaith yn Dewis Cymru. Ar ôl i chi diweddaru’ch gwybodaeth yn Dewis, bydd eich gwybodaeth yn weladwy yn http://www.gwybodaethgofalplant.cymru.
Am faint o amser fydd fy ngwybodaeth ar gael?
Gallwch chi ddiweddaru’ch gwybodaeth ar unrhyw adeg. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thynnu o olwg y cyhoedd oni bai ei bod yn cael ei diweddaru o leiaf unwaith bob 6 mis er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn aros yn gyfoes. Bydd y system yn anfon e-bost atgoffa atoch chi i adael i chi wybod pryd dylai’ch gwybodaeth gael ei hadolygu.
Faint o amser ydy’n cymryd i fy ngwybodaeth ymddangos ar wefan http://www.gwybodaethgofalplant.cymru?
Ar ôl iddi gael ei chymeradwyo, bydd eich gwybodaeth yn fyw ar y wefan ar unwaith. Hefyd byddwch chi’n derbyn e-bost oddi wrth Dewis i gadarnhau bod eich gwybodaeth bellach yn weladwy i’r cyhoedd.
Beth os oes angen cymorth pellach arna i?
Mae arweiniad ar gael ond os ydych chi’n cael anawsterau wrth gofrestru, mewngofnodi neu ddiweddaru eich gwybodaeth, cysylltwch â’r tîm yn Dewis Cymru.